Mae’r ferch a oedd yn gyd sylfaenydd un o wyliau gorau’r DU yn dychwelyd – ond y tro hwn fel un o’r arddangoswyr.

Roedd cyfraniad Sue Haygarth i sefydlu gŵyl Hamper Llangollen yn allweddol ac mae wedi dewis yr ŵyl eleni i lansio’i busnes un ferch ei hunan.

Sue Haygarth 2

Mae’i chwmni gyda’r enw sbeislyd, KarmaSucre, yn cynhyrchu macarŵns hynod flasus, pob un gyda llenwad naturiol megis ceuled lemwn, cwli granadila a charamel hallt gyda Halen Môn.

16 o flynyddoedd yn ôl cafodd Sue, o Fwcle a Lowri Owain o’r asiantaeth adfywio wledig, Cadwyn Clwyd, y syniad o ŵyl fwyd yn Llangollen.

Erbyn hyn, mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal o 19 – 20 Hydref, yn swyddogol yn un o’r 10 gŵyl gorau’r DU.

O 1996 hyd at 2011, Sue oedd Swyddog Adfywio a Buddsoddi Cyngor Sir Ddinbych.

“Cymerais ymddeoliad cynnar yn 2011,” meddai Sue.

Wrth ei bodd yn pobi gartref, ychwanegodd Sue: “Roeddwn i wedi bod yn chwarae gyda’r syniad o geisio gwneud macarŵns am beth amser.

“Roedd y chef Ffrengig Michel Roux yn dweud ei bod yn cymryd tua dwy flynedd i berffeithio macarŵn gwirioneddol dda.”

Amrywiad yw macarŵn ar fereingue melys sy’n cael ei wneud gydag wyau, siwgr eisin, siwgr gronynnog, almwnd mâl a lliw bwyd. Weithiau fe’u gelwir yn facarŵns, er bod Sue’n dweud fod macarŵn fel arfer yn cynnwys cneuen goco.

“Mae’n felysfwyd sydd â marchnad niche ac roeddwn i’n dechrau ar y gwaith o’i berffeithio. Roedd rhai o’m cydweithwyr gyda’r cyntaf i’w blasu ac yna bûm yn cynnal ychydig o sesiynau blasu yng Nghanolfan Fwyd Cymru Bodnant.  Rwyf wedi gwerthu rhai ar lein a thrwy’r post i baratoi ar gyfer fy ngŵyl fwyd gyntaf.”

“Mae fy merch yn byw yn Llundain a, pan fyddwn yn ymweld, wrth fynd am goffi, byddwn yn cael macarŵn bob tro, ond maen nhw’n ddrud iawn. Rwyf wrth fy modd gydag unrhyw beth gydag almwnd mâl. Ond nid yw mor hawdd cael macarŵns yma.”

Er bod Sue wedi sefydlu’i busnes ymgynghoriaeth rheoli prosiect ei hunan, Haygarth Berry Associates, ar ôl 40 mlynedd mewn llywodraeth leol, penderfynodd ddechrau ei busnes macarŵn ei hunan a chafodd ei chegin gartref raddfa hylendid pum seren ar gyfer cynhyrchu’i bwyd.

“Rwyf wrth fy modd yn crasu ac yn coginio ond dydw i ddim mor hoff o wneud dim ond pethau fel cacen sbwng, roeddwn eisiau rhywbeth heriol.”

Ar ôl oes o helpu a chynghori busnesau bach, yn sydyn cafodd Sue ei hunan ar ochr arall y ffens. Cyn Sir Ddinbych bu’n gweithio i awdurdodau lleol Clwyd, Abertawe a Sir y Fflint.

Yn Sir Ddinbych, roedd yn cefnogi busnesau, yn rheoli prosiectau ac yn ymdrin â phortffolio’r cyngor o dros 200 o unedau busnes. “Symudodd Caws Eryri i mewn i un o’n rhai ni – cwmni gwych.”

Roedd hefyd yn rheoli prosiectau cyfalaf bychain, canol trefi, ac yn fwyaf diweddar bu’n gweithio mewn mentrau cymdeithasol gyda phartneriaid yn yr Iwerddon.

“Mae gwneud dim ond trin pethau fel pacio a gwefannau’n gofyn i chi fod â llawer o ffydd ynoch chi’ch hunan.

“Roeddwn yn gweithio gyda llawer o fusnesau ac un o’r heriau gyda ‘busnesau ffordd o fyw’ oedd eu bod yn gyndyn o fuddsoddi gormod na thyfu’n rhy fawr, yn rhy gyflym – erbyn hyn, rwyf i wedi dod yn un o’r busnesau ffordd o fyw hynny!”

Meddai: “Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at fod yn Llangollen. Roedd yr ŵyl gyntaf yn yr hyn rwy’n ei galw’r hen neuadd chwaraeon ac chafodd y cogydd Dai Davies wahoddiad yno. Roedd y neuadd yn rhy fach a chyfyng ac roedden ni’n cael ein boddi gydag ymwelwyr. Felly, y flwyddyn wedyn, roedden ni’n trefnu digwyddiad hyd yn oed yn fwy.  Doedd gwyliau bwyd ddim yn bethau cyffredin iawn y dyddiau hynny.

“Roedden ni wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau megis Patchwork Pate, Wholebake, Llaeth y Llan a Chaws Eryri a hefyd yn helpu llawer o gwmnïau bwyd bychain iawn ac yn meddwl y dylen nhw gael lle yn rhywle i arddangos eu cynnyrch i’r cyhoedd er mwyn i bobl weld cystal cynnyrch y mae’r yma o Gymru’n ei gynhyrchu.

“Roedd tua 20 – 30 o stondinau a chawsom Dai i wneud arddangosfeydd coginio.  Roedd yn llwyddiant ysgubol – doedd y rhan fwyaf o bobl erioed wedi gweld gŵyl fwyd o’r blaen. Roedd Dai eisoes yn ‘seleb o chef’ a chanddo’i ddilynwyr – roedd yn llwyddiant mawr.

“Roedd yn anhygoel a dweud y gwir, oherwydd dydyn ni ddim yn ardal sy’n arbennig o enwog am gaws, iogwrt, cacennau neu unrhyw beth felly, ond roedd yr holl gynhyrchwyr bwyd gwirioneddol dda yma.

“Rydyn ni’n chwilio bob amser am ffyrdd o godi proffil cynnyrch gogledd Cymru. Roedd cychwyn yr ŵyl fwyd yn naid yn y tywyllwch, erbyn hyn, mae pawb yn cynnal un.

“Bydd yn wych cael mynd i Langollen.  Rwy’n siŵr y bydda i’n adnabod llawer o bobl yno a bydd y braf cael stondin i werthu fy nghynnyrch fy hun i gynulleidfa fawr.

Yn ymuno yng nghegin yr ŵyl eleni gyda Graham Tinsley, seren Taste the Nation, ITV a chyn gapten Tȋm Coginio Cymru, bydd y cogydd bythol boblogaidd Dai Chef. Meddai Robert Price, swyddog prosiect amaeth-bwyd Cadwyn Clwyd: “Yn ogystal â llawer o’r ffefrynnau, mae llawer o gynhyrchwyr bwyd newydd eisiau dod yno eleni ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd Sue yn seren ymysg yr atyniadau yn yr ŵyl eleni.”

“Mae’r Pafiliwn mewn lle hynod o hardd – alla i ddim dychmygu fod unrhyw ŵyl fwyd yng ngwledydd Prydain mewn lle harddach.”

Macaroons

“Mae hefyd yn newyddion rhagorol i economi’r ardal. Os byddwch yn prynu gan gynhyrchydd lleol, mae’r holl arian yn cael ei ailgylchu trwy economi’r ardal ac mae hynny’n cynnal cyflogaeth yn ein hardaloedd gwledig.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch Hamper Llangollen 2013 ymwelwch â:  www.llangollenfoodfestival.com ac am ragor o wybodaeth am Karmasucre ewch i www.karmasucre.com