Bydd cyn-athro ysgol a gododd i’r her o gyfnewid y bwrdd du am ffwrn pobi yn arddangos ei hamrywiaeth o fara traddodiadol blasus yng Ngŵyl Fwyd Llangollen eleni

Ar ôl dilyn cwrs gwneud bara yn ôl yn ei thref enedigol yn Llundain wyth mlynedd yn ôl fe syrthiodd Liz Wilson mewn cariad â’r sgil dros nos.

Dechreuodd bobi a phobi, gan fwynhau pob eiliad ac yn fuan roedd yn gwneud digon o fara gartref i ddechrau gwerthu i ffrindiau.

Dechreuodd pethau yn ystod y cyfnod clo pan roddodd yr amser i ffwrdd o’i swydd bob dydd yn yr ysgol gynradd gyfle iddi ddechrau pobi o ddifri, a chynyddodd ei chwsmeriaid o 60 i 450 mewn ychydig wythnosau yn unig.

Llynedd fe benderfynodd Liz chwilio am adeilad gyda mwy o le i bobi a symudodd hi a’i gŵr i bentref hardd Overton-on-Dee yng ngogledd Cymru, lle agorodd ei busnes ei hun o dan yr enw Ma Baker yn y stryd fawr ym mis Tachwedd.

Mae’r eiddo, sy’n cael ei adnabod fel yr Old Pharmacy House, yn dyddio’n ôl dros 200 mlynedd ac yn darparu digon o le i’r cwpl gael cartref ac i Liz gael y becws proffesiynol yr oedd hi wedi breuddwydio amdano ers tro.

Mae hi’n pobi ddwywaith yr wythnos – dydd Iau a dydd Gwener – ac yn gwerthu’n gyflym popeth mae hi’n ei gynhyrchu yn y siop ar y llawr cyntaf – ar agor yn y prynhawniau yn unig – a system rhag archebu brysur.

Gan ddefnyddio dau bopty proffesiynol fawr, a dim ond ei phâr hi o ddwylo, mae’n cynhyrchu tua 150 o nwyddau wedi eu pobi yr wythnos.

Dyweda Liz: “Dwi’n caru beth dwi’n ei wneud. Gyda thri neu bedwar cynhwysyn syml gallaf wneud rhywbeth sy’n blasu’n wych ac sy’n gwneud i bobl wenu. Mae’n broses sy’n tawelu ac yn bodloni ac mae’r arogl yn anhygoel.

“Bob wythnos, byddaf yn cynnig amrywiaeth o fara a fydd bob amser yn cynnwys bara tun gwyn a chyflawn, bara uwd sydd wedi ennill gwobr 3 seren Great Taste, cracers gwenith yr hydd, surdoes a granola, bisgedi a focaccias.

“Bydd gen i ambell i fara arbennig hefyd a fydd yn newid o wythnos i wythnos. Gall fod yn fara siocled tywyll, caws, cennin syfi a chili, marmite, cneuen Ffrengig, pecan a sultana, byns croes poeth neu stollen.”

Mae Liz ymhlith llu o’r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau o bob cwr o Ogledd Cymru a thu hwnt fydd â stondinau yng Ngŵyl Fwyd Llangollen ar ddydd Sadwrn Hydref 15.

“Roedd fy ymweliad cyntaf â’r ŵyl y llynedd,” meddai, “doeddwn i ddim yn arddangos ond mi es yno i gael golwg. Fe wnes i fwynhau fy hun gymaint roeddwn i’n gwybod yn bendant bod rhaid i mi ddod ‘nôl fel arddangoswr eleni.

“Dwi wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r gymuned. Mae fy musnes i a minnau eisoes wedi dod yn eithaf adnabyddus yn Overton ond bydd dod i’r ŵyl yn fy helpu i hyrwyddo yr hyn rwy’n ei wneud hyd yn oed ymhellach.

“Dwi wrth fy modd yn cwrdd â phobl a dweud wrthyn nhw am fy mara ac fe fydd yr ŵyl yn rhoi cyfle i mi wneud hynny. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i gwrdd â phobl eraill yn y busnes bwyd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn.”

Bydd yr Ŵyl Fwyd eleni mewn amrywiaeth o leoliadau yng nghanol Llangollen ac ar agor i’r cyhoedd rhwng 10am-5pm.

Bydd amrywiaeth o oddeutu 40 o stondinwyr yn arddangos eu cynnyrch, yn amrywio o’r goreuon o Gymru i fwyd stryd Bolifia, yn Neuadd y Dref, yn y brif fynedfa i Reilffordd Stêm Llangollen a hefyd i Gales Wine Bar.

Bydd rhai atyniadau cyffrous yno hefyd, gan gynnwys arbenigwyr lleol yn rhoi cyfle i’r plant – ac oedolion hefyd – brofi eu sgiliau wrth wneud crempogau neu greu campwaith clai ar olwyn crochenydd go iawn.

Bydd Gŵyl gwrw fechan yng ngardd newydd Gales Wine Bar, a thrwy gydol y dydd bydd arddangosiadau coginio gan gogyddion lleol.

Ar ôl y prif ddigwyddiad yn ystod y dydd, gwahoddir pobl yn ôl i Neuadd y Dref o 6pm i herio eu synhwyrau gyda digwyddiad blasu arbennig gan arbenigwyr Wisgi Penderyn ei hun, gyda’r gost yn £15 y pen.

Drwy gydol y dydd bydd detholiad o adloniant awyr agored byw yn Sgwâr Canmlwyddiant Llangollen, gan gynnwys detholiadau gan gôr merched Corwen a bandiau lleol.