Arddangosfa Coginio: Sadwrn 15 Hydref 12:00 pm

Bydd Jack Hatley, pen cogydd y bar gwin, Gale’s of Llangollen, yn arddangos ei ddoniau cigydda wrth ddangos sut i baratoi cig oen Cymreig.

Bu Jack yn gweithio ym mwytai enwog Grosvenor yng Nghaer ac yn Sumas, yn ne ynys Jersey.

Yn ei amser “hamdden” mae Jack yn gweithio fel cigydd ar fferm leol ac yn dysgu yn Ysgol Goginio Upstairs Downstairs yng Nghroesoswallt gyda Yossi Gliksman a bydd y ddau’n gobeithio gweithio gyda’i gilydd heddiw.