Bydd Gŵyl Fwyd Llangollen yn gweini nifer o ddanteithion blasus o galon y dref yr wythnos hon.
Mae’r digwyddiad blynyddol poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr llwglyd o ar draws y DU sy’n chwilio i gael samplu profiadau bwyd a diod hen a newydd.
Hyd yn hyn mae’r ŵyl wedi bod yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn rhyngwladol y dref, ond eleni bydd yr ŵyl yn dod o nifer o leoliadau yng nghanol y dref.
Mae amrywiaeth o tua 40 stondin yn aros i dangos eu cynhyrchion, yn amrywio o gynyrchion Cymreig wedi’w tyfu yma i fwydydd stryd Bolifiaidd, yn neuadd y dref, mynedfa’r orsaf dren stem ac ym Mar Gwin Gales.
Fel sydd bellach yn draddodiad yn un o ŵylydd bwyd enwocaf Cymru bydd atyniadau ‘hands-on’ ar gael, gan gynnwys yr arbennigwyr lleol yn cynnig siawns i blant – ac oedolion – i brofi eu sgiliau wrth addurno cacennau bach neu chreu cyfanwaith glai ar olwyn crochenydd.
Dywedodd un o brif drefnwyr y digwyddiad Pip Gale, perchennog Bar Gwin Gales: “Pan ddifethodd Covid ein cynlluniau y llynedd i ddychwelyd i’n safle arferol ym Mhafiliwn yr Eisteddfod, fe ddaethom at ein gilydd fel trefnwyr a phenderfynnu i gynnal gŵyl ychydig yn llai yng nghalon y dref.
“Dros ddau ddiwrnod, fe ymwelodd canoedd o bobl i ardd y bar gwin er mwyn pori’r stondinau gan gynhyrchwyr bwyd lleol ac artistiaid cyn mwynhau diod yn haul yr hydref. Roeddem wrth ein boddau gyda sut y gwnaeth yr ŵyl uno pobl a busnesau lleol mewn amser caled iawn i bawb.
“Mwynhaodd bobl yr ŵyl gymaint fe benderfynon i gadw pethau yn debyg iawn eto eleni felly fe fyddwn yn ol yng nghanol Llangollen ar gyfer yr ŵyl yn 2022, gyda mwy o leoedd a hyd yn oed mwy o stondinau i’w mwynhau mewn diwrnod llawn hwyl yn yr ŵyl.
“Yn debyg i wyliau’r gorffenol, fe fydd ganddom ein cymysgedd o arddangoswyr diddorol ond fe fyddwn hefyd yn cynnwys cynhyrchion newydd, siaradwyr gwadd, a arddangosiadau byw – yn ogystal a cherddoriaeth byw i bawb ei fwynhau.”
Ar y 15fed o Hydref, bydd yr ŵyl ar agor i’r cyhoedd o 10yn tan 5yh yn y lleoliadau gwahanol, bydd pob un o’r rhain yn cynnwys sbectrwm eang o stondinau bwyd a diod.
Bydd Bar Gwin Gales yn gartref i ŵyl gwrw bach yn ei ardal erddig newydd.
Trwy gydol y dydd bydd arddangosiadau byw gan y cogyddion lleol gorau.
Bydd profiadau ‘taflu padell’ a chreu cacennau bach ar gael yn neuadd y dref.
Yn dilyn gŵyl y dydd, bydd cynnig i bobl ddychwelyd i neuadd y dref o 6yh ar gyfer sialens i’w synhwyrau mewn profiad blasu arbennig a gynhelir gan arbennigwyr y cynnyrch Cymreig Wisgi Penderyn lle bydd cost o £15 y pen.
Trwy gydol y dydd bydd adloniant byw o sgwar canmlwyddiant Llangollen, gan gynnwys detholiadau gan Gor Merched Corwen a bandiau lleol.