Bydd dewin coginol a gyrhaeddodd rownd y chwarteri ar raglen deledu ‘Masterchef: The Professionals’ yn dangos ei sgiliau yn Ngŵyl Fwyd Llangollen eleni.
Miniodd Neil Robertson ei fedusrwydd mewn maes coginio mewn nifer eang o westai a bwytai yn y DU a dramor cyn gwynebu’r dasg o fod yn ‘sous chef’ yn y ‘Wild Pheasant Hotel and Spa’ yn Llangollen fehefin diwethaf.
Mae’n un o nifer helaeth o gynhyrchwyr bwyd a diod fydd yn mynychu’r ŵyl am ddiwrnod ar Ddydd Sadwrn y 15fed o Hydref lle bydd y cogydd llwyddianus yn cyflwyno ei bryd un ddesgl sydd yn sicr o dynnu dŵr o’ch danedd gan ddefnyddio cynhwysion ffres Cymreig.
Mae Neil sy’n 23 yn wreiddiol o Johannesburg yn Ne Affrica ond fe symudodd ef a’i deulu i Gasnewydd, De Cymru pan oedd o’n 14.
Yn 16 fe dderbyniodd brentisiaeth fel Cogydd yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd. Wedi cwblhau ei hyfforddiant yno fe benderfynnodd Neil y bydde’n arbenigo mewn ‘fine dining’, a daeth ei rol gyntaf yn y maes hwnnw yng Ngwesty moethus Llangoed ym Mannau Brycheiniog ac yno, ei deitl oedd ‘chef de partie’.
Symudodd ei antur broffesiynnol nesaf ef ar draws y byd i Melbourne, Awstralia lle adeiladodd ar ei brofiad gan weithio mewn cegin a oedd yn brolio ei statws dair seren Michelin.
Fe ddychwelodd i’r DU ar ol chwe mis yn Awstralia er mwyn dod yn ‘junior sous chef’ yn yr enwog Albrighton Hall Hotel and Spa yn yr Amwythig, cyn symud yn ei flaen i Nottingham i wynebu ei rol gyntaf fel cogydd arweiniol yng Ngwesty Lace Market yn y ddinas.
Yr haf yma fe ymunodd a’r tim prysur yn y Wild Pheasant.
Mae’n cofio’r profiad o gyrraedd rownd chwarteri Masterchef yn 2019 yn glir iawn meddai o, lle ofynwyd iddo baratoi’r omlet Arnold Bennett berffaith yn gynnar yn y gystadleuaeth.
“I fod yn onest, doeddwn i erioed wedi clywed amdano o’r blaen ond fe ddarganfyddais yn fuan iawn ei fod wedi’w selio ar Hadog wedi’w ysmygu a saws mornay. Roedd y dasg honno yn eithaf caled ond fe es i drwadd i rownd y chwarteri gyda pryd a gynhwysai pioden gyda madarch gwyllt, truffles a saws cyrens duon a garodd y beirniaid.”
Dywedodd Neil ei fod yn hwynhau ei amser yn y Wild Pheasant gan esbonio ei fod yn “le arbennig i weithio mewn lleoliad perffaith a rydym yn croesawu ystod eang iawn o gwsmeriaid gan ei fod yn westy gwych gyda spa.
“Er nad ydw i wedi mynychu gŵyl fwyd Llangollen yn y gorffenol rwyf wedi clywed llawer amdano gan ei fod yn cael ei weld fel un o’r prif ddigwyddiadau’r calendar bwyd yn y DU.
“Mae gan ogledd Cyrmru rai o’r cynhyrchion gorau yn y byd a mae gan Llangollen bob dim o ran ei leoliad a’i hygyrchedd.
“Ar ddiwrnod yr ŵyl, byddaf yn cyflwyno pryd arbennig wedi’w baratoi mewn un padell gan gynnwys cynhyrch cymreig gwych fel cregyn gleision Conwy a saws hufen wisgi Penderyn, pancetta wedi’w ysmygu gyda menyn bara lafa ar fara surdoes crychlyd.”
Bydd gŵyl fwyd eleni yn dod o amrywiaeth o ganolfanau yng nghanol Llangollen a fe fyddon agor i’r cyhoedd o 10yb tan 5yh.
Mae amrywiaeth o tua 40 stondin yn aros i dangos eu cynhyrchion yn amrywio o’r cynyrchion Cymreig wedi’w tyfu yma i fwydydd stryd Bolifiaidd, yn neuadd y dref, mynedfa’r orsaf dren stem ac yn nhafarn Gwin Gales.