Arddangosfa Coginio: Sadwrn 15 Hydref 2.00yp

Bydd y pobydd teledu boblogaidd yn rhannu rhai o’r cyfrinachau amhrisiadwy a ddysgodd yn blentyn oddi wrth ei ddwy nain o Gymru yn yr ŵyl fwyd.

Yn ogystal â bod â’i sioe ei hunan, Beca, ar S4C, sy’n cael ei noddi gan Village Bakery o Wrecsam, llwyddodd Beca Lyne-Pirkis i gyrraedd rownd gyn derfynol y sioe deledu hynod boblogaidd Great British Bake Off yn 2013. Mae’n dysgu mewn ysgol goginio yn Swydd Derby ac yn llysgennad answyddogol Borough, marchnad fwyd enwog yn Llundain,.