Torri record y byd yn yfflon am wneud trwffls mewn gŵyl fwyd
Gwneuthurwr siocled o Ogledd Cymru yw’r cyflymaf ar y blaned am wneud trwffls. Chwalodd record y byd yn yfflon mewn gŵyl fwyd o flaen torf yn bloeddio eu cymeradwyaeth. Torrodd Jo Edwards record y cogydd teledu Gino D’Acampo ym mhrif arddangosfa’r gegin yn Hamper Llangollen dros y penwythnos ac, erbyn hyn, mae’r dystiolaeth wedi’i hanfon [...]