Mae ysgolion ledled y DU yn defnyddio Pythefnos Bwyd Prydain (British Food Fortnight) fel cyfle i addysgu pobl ifanc am fwyd: am yr ystod amrywiol a blasus o fwyd sydd ar gael, manteision bwyta’n iach ac am y pleserau o fwyta cynnyrch ffres, tymhorol a rhanbarthol gwahanol.
Ar gyfer 2020, mae Cynnyrch o Gymru yn cyflwyno ‘Diwrnod Cymru’ ddydd Iau 1 Hydref sydd wedi’i gynnwys yn amserlen Pythefnos Bwyd Prydain i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru.
Mae trefnwyr Love British Food wedi cynhyrchu’r Pecyn Adnoddau hwn yn benodol ar gyfer athrawon. Gobeithiwn y bydd yn eich annog i gynnal gwersi a gweithgareddau arbennig i bobl ifanc yn ystod Pythefnos Bwyd Prydain ac y cewch eich ysbrydoli i barhau â gweithgareddau tebyg drwy gydol y flwyddyn.
Syniadau am wersi a gweithgareddau ar gyfer pob pwnc cwricwlwm i bobl ifanc yn eu blynyddoedd cynnar, oed cynradd ac uwchradd.
Disgrifiadau byr o weithgareddau gyda manylion cyswllt ar gyfer adnoddau addysgu.
Ryseitiau yn ystod y tymor i bobl ifanc roi cynnig arnynt.
Cysylltiadau â sefydliadau, cynhyrchwyr, adwerthwyr, bwytai a siopau twristiaeth a all eich helpu drwy gynnig cymorth sy’n seiliedig ar weithgareddau a chyfleusterau dysgu wrth addysgu pobl ifanc am fwyd.
Os hoffai eich ysgol gymryd rhan yn ‘Diwrnod Cymru’ anfonwch e-bost at blas@welshproduce.com
Mae cymryd rhan yn y gwaith o drefnu Pythefnos Bwyd Cymru yn gyfle da i gael rhywfaint o gyhoeddusrwydd lleol i’ch ysgol. Cafodd llawer o ysgolion a oedd yn cymryd rhan ledled y DU yn y digwyddiad y llynedd sylw yn eu papurau lleol ac roedd rhai hyd yn oed yn cael sylw ar y teledu. Gall sylw yn y cyfryngau fod yn ffordd dda o ddiolch i athrawon, rhieni a phlant am gymryd rhan. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i gael rhywfaint o gyhoeddusrwydd lleol – gan gynnwys datganiadau enghreifftiol i’r cyfryngau, gwahoddiadau i’w rhoi i newyddiadurwyr a rhestr lawn o gysylltiadau â’r cyfryngau ym mhob rhanbarth ar gael ar: https://lovebritishfood.co.uk/teachers-zone/